Hosea 13:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;nid adwaenit Dduw heblaw myfi,ac nid oedd achubydd ond myfi.

5. Gofelais amdanat yn yr anialwch,yn nhir sychder.

6. Dan fy ngofal cawsant ddigon;fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon;felly yr anghofiwyd fi.

7. Minnau, byddaf fel llew iddynt;llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.

8. Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon,rhwygaf gnawd eu mynwes,ac yno traflyncaf hwy fel llew,fel y llarpia anifail gwyllt hwy.

9. “Pan ddinistriaf di, O Israel,pwy fydd dy gynorthwywr?

10. Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd,a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt,‘Dyro inni frenin a thywysogion’?

11. Rhoddais iti frenin yn fy nig,ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.

Hosea 13