Hosea 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;amlhânt dwyll a thrais;gwnânt gytundeb ag Asyria,a dygant olew i'r Aifft.

2. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3. Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

4. Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;wylodd a cheisiodd ei ffafr.Ym Methel y cafodd ef,a siarad yno ag ef—

Hosea 12