Hosea 11:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid,ni ddinistriaf Effraim eto;canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,y Sanct yn dy ganol;ac ni ddof i ddinistrio.

10. “Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;

11. dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,ac fel colomen o wlad Asyria,a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.

12. Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,a thŷ Israel â thwyll;ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,ac yn ffyddlon i'r Sanct.

Hosea 11