Hosea 1:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.

4. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,

5. a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”

Hosea 1