12. Y mae'n dweud:“Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau,a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa”;
13. ac eto:“Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried”;ac eto fyth:“Wele fi a'r plant a roes Duw imi.”
14. Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol,
15. a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.