Hebreaid 13:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Am hynny, gadewch inni fynd ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan oddef y gwaradwydd a oddefodd ef.

14. Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod.

15. Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.

Hebreaid 13