Hebreaid 11:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin.

24. Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo,

25. gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro,

26. a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr.

Hebreaid 11