Haggai 2:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. “Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.

11. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd:

Haggai 2