Haggai 2:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? O'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf.”

20. Daeth gair yr ARGLWYDD at Haggai eilwaith ar bedwerydd dydd ar hugain y mis:

21. “Dywed wrth Sorobabel, llywodraethwr Jwda, ‘Yr wyf fi am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear;

22. dymchwelaf orsedd brenhinoedd, dinistriaf gryfder teyrnasoedd y cenhedloedd, a dymchwelaf gerbydau a marchogion; bydd ceffylau a'u marchogion yn syrthio, pob un trwy gleddyf ei gyfaill.

23. Yn y dydd hwnnw,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ ‘fe'th gymeraf di Sorobabel fab Salathiel, fy ngwas,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac fe'th wisgaf fel sêl-fodrwy, oherwydd tydi a ddewisais,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Haggai 2