Genesis 9:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.

11. Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.”

12. A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:

13. gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.

Genesis 9