Genesis 5:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.

9. Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.

10. Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

11. Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.

12. Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.

Genesis 5