Genesis 48:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, “Y mae dy dad yn wael.” Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,

2. a phan ddywedwyd wrth Jacob, “Y mae dy fab Joseff wedi dod atat”, cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.

Genesis 48