Genesis 46:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon.

6. Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef,

7. ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth รข'i deulu i gyd i'r Aifft.

8. Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,

9. a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.

Genesis 46