5. O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ”
6. Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt.
7. Atebasant hwythau, “Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth.
8. Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd?
9. Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd.”
10. “O'r gorau,” meddai yntau, “bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd.”
11. Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor.
12. Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin.
13. Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.
14. Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen.
15. Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?”