Genesis 44:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’

23. Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’

24. Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.

25. A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,

26. atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’

Genesis 44