Genesis 41:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma.

27. Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu hôl, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.

28. Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.

29. Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft,

Genesis 41