Genesis 36:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.

25. Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.

26. Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.

27. Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.

28. Dyma feibion Disan: Us ac Aran.

29. Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,

30. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.

Genesis 36