Genesis 34:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, “Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu.”

31. Ond dywedasant hwythau, “A oedd i gael trin ein chwaer fel putain?”

Genesis 34