Genesis 34:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Dina, y ferch yr oedd Lea wedi ei geni i Jacob, allan i ymweld â gwragedd y wlad.

2. Pan welwyd hi gan Sichem fab Hamor yr Hefiad, tywysog y wlad, fe'i cymerodd a gorwedd gyda hi a'i threisio.

3. Rhoddodd ei holl serch ar Dina merch Jacob; hoffodd y ferch, a siaradodd yn gariadus wrthi.

4. Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, “Cymer y ferch hon yn wraig i mi.”

Genesis 34