Genesis 32:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.

22. Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc.

23. Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd.

24. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr.

Genesis 32