Genesis 28:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.

20. Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, “Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,

21. a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,

22. a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti.”

Genesis 28