Genesis 27:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tŷ, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf;

16. a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn;

17. yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi.

18. Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?”

Genesis 27