Genesis 25:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.

25. Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.

26. Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.

27. Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.

28. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.

Genesis 25