62. Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef.
63. Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod.
64. Cododd Rebeca hefyd ei golygon, a phan welodd Isaac, disgynnodd oddi ar y camel,
65. a gofyn i'r gwas, “Pwy yw'r gŵr acw sy'n cerdded yn y maes tuag atom?” Atebodd y gwas, “Dyna fy meistr.” Cymerodd hithau orchudd a'i wisgo.
66. Ac adroddodd y gwas wrth Isaac am bopeth yr oedd wedi ei wneud.
67. Yna daeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd yn wraig iddo. Carodd Isaac Rebeca, ac felly cafodd gysur ar ôl marw ei fam.