Genesis 24:47-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

47. Yna gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Ac meddai hithau, ‘Merch Bethuel fab Nachor a Milca.’ Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.

48. Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.

49. Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith.”

50. Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da.

51. Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.”

52. Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau, ymgrymodd i'r llawr gerbron yr ARGLWYDD,

53. ac estynnodd dlysau o arian ac aur, a gwisgoedd, a'u rhoi i Rebeca; rhoddodd hefyd anrhegion gwerthfawr i'w brawd ac i'w mam.

54. A bwytaodd ac yfodd, ef a'r dynion oedd gydag ef, ac aros yno noson. Pan godasant yn y bore, dywedodd, “Gadewch imi fynd at fy meistr.”

55. Ac meddai ei brawd a'i mam, “Gad i'r ferch aros gyda ni am o leiaf ddeg diwrnod; wedi hynny caiff fynd.”

56. Ond dywedodd ef wrthynt, “Peidiwch â'm rhwystro, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gadewch imi fynd at fy meistr.”

57. Yna dywedasant, “Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi.”

58. A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, “A ei di gyda'r gŵr hwn?” Atebodd hithau, “Af.”

Genesis 24