Genesis 24:43-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. tra wyf yn sefyll wrth y ffynnon ddŵr, bydded mai'r ferch ifanc a ddaw allan i godi dŵr ac yna, pan ddywedaf wrthi, “Rho i mi ychydig ddŵr i'w yfed o'th stên”,

44. fydd yn ateb, “Yf, a chodaf ddŵr i'th gamelod hefyd”, bydded mai honno fydd y wraig y mae'r ARGLWYDD wedi ei darparu i fab fy meistr.’

45. Cyn i mi orffen gwneud fy nghais, dyma Rebeca yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd; aeth i lawr at y ffynnon a chodi dŵr. Dywedais wrthi, ‘Gad imi yfed.’

46. Brysiodd hithau i ostwng ei stên oddi ar ei hysgwydd, a dywedodd, ‘Yf, a rhof ddiod i'th gamelod hefyd.’ Yfais, a rhoes hithau ddiod i'r camelod.

47. Yna gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Ac meddai hithau, ‘Merch Bethuel fab Nachor a Milca.’ Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.

48. Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.

49. Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith.”

50. Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da.

51. Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.”

52. Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau, ymgrymodd i'r llawr gerbron yr ARGLWYDD,

53. ac estynnodd dlysau o arian ac aur, a gwisgoedd, a'u rhoi i Rebeca; rhoddodd hefyd anrhegion gwerthfawr i'w brawd ac i'w mam.

54. A bwytaodd ac yfodd, ef a'r dynion oedd gydag ef, ac aros yno noson. Pan godasant yn y bore, dywedodd, “Gadewch imi fynd at fy meistr.”

55. Ac meddai ei brawd a'i mam, “Gad i'r ferch aros gyda ni am o leiaf ddeg diwrnod; wedi hynny caiff fynd.”

56. Ond dywedodd ef wrthynt, “Peidiwch â'm rhwystro, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gadewch imi fynd at fy meistr.”

57. Yna dywedasant, “Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi.”

58. A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, “A ei di gyda'r gŵr hwn?” Atebodd hithau, “Af.”

59. Felly gollyngasant eu chwaer Rebeca a'i mamaeth, a gwas Abraham a'i ddynion,

60. a bendithio Rebeca, a dweud wrthi,“Tydi, ein chwaer, boed iti fyndyn filoedd o fyrddiynau,a bydded i'th ddisgynyddionetifeddu porth eu gelynion.”

61. Yna cododd Rebeca a'i morynion, a marchogaeth ar y camelod gan ddilyn y gŵr; felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ymaith.

62. Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef.

63. Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod.

Genesis 24