Genesis 24:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Ac ychwanegodd, “Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya.”

26. Ymgrymodd y gŵr i addoli'r ARGLWYDD,

27. a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i dŷ brodyr fy meistr.”

28. Rhedodd y ferch a mynegi'r pethau hyn i dylwyth ei mam.

29. Ac yr oedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a rhedodd ef allan at y gŵr wrth y ffynnon.

Genesis 24