Genesis 22:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,

18. a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.”

19. Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.

Genesis 22