Genesis 18:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.

4. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,

5. a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”

Genesis 18