Genesis 17:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Dywedodd Duw wrth Abraham, “Cadw di fy nghyfamod, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau.

10. Dyma fy nghyfamod rhyngof fi a chwi, yr ydych i'w gadw, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl: y mae pob gwryw ohonoch i'w enwaedu.

11. Enwaedir chwi yng nghnawd eich blaengrwyn, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngom.

12. Dros eich cenedlaethau, fe enwaedir pob gwryw ohonoch sydd yn wyth diwrnod oed, boed wedi ei eni i'r teulu, neu'n ddieithryn heb fod yn un o'th ddisgynyddion, ond a brynwyd ag arian.

Genesis 17