Genesis 17:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.”

3. Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud,

4. “Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd,

5. ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.

6. Gwnaf di'n ffrwythlon iawn; a gwnaf genhedloedd ohonot, a daw brenhinoedd allan ohonot.

Genesis 17