Genesis 16:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.

7. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.

8. A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.”

9. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.”

10. Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.”

11. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;byddi'n ei alw yn Ismael,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.

Genesis 16