Genesis 14:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, “Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo.”

22. Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, “Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear,

23. na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, ‘Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.’

24. Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwŷr a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; cânt hwy gymryd eu cyfran.”

Genesis 14