Genesis 11:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.”

8. Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.

9. Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

10. Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.

11. Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.

12. Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela.

13. Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

14. Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.

15. Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

Genesis 11