Genesis 11:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.

25. Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.

26. Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.

27. Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot.

28. Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid.

29. Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca.

30. Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.

Genesis 11