Genesis 10:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw.

2. Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.

3. Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma.

4. Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim;

5. o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.

Genesis 10