Galatiaid 3:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu.

27. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano.

28. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.

Galatiaid 3