Galarnad 5:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.

10. Y mae ein croen wedi duo fel ffwrnoherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.

11. Treisir gwragedd yn Seion,a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.

12. Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,ac ni pherchir yr henuriaid.

13. Y mae'r dynion ifainc yn llafurio รข'r maen melin,a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.

Galarnad 5