Galarnad 4:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Y mae tafod y plentyn sugnoyn glynu wrth ei daflod o syched;y mae'r plant yn cardota bara,heb neb yn ei roi iddynt.

5. Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithionyn ddiymgeledd yn y strydoedd,a'r rhai a fagwyd mewn ysgarladyn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6. Y mae trosedd merch fy mhoblyn fwy na phechod Sodom,a ddymchwelwyd yn ddisymwthheb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7. Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,yn wynnach na llaeth;yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,a'u pryd fel saffir.

Galarnad 4