Galarnad 3:55-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

55. Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD,o waelod y pydew.

56. Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddari'm cri am gymorth.”

57. Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat;dywedaist, “Paid ag ofni.”

58. Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos,ac yn gwaredu fy mywyd.

59. Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi,a dyfernaist o'm plaid.

60. Gwelaist eu holl ddial,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.

61. Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn—

Galarnad 3