Galarnad 3:29-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. boed iddo osod ei enau yn y llwch;hwyrach fod gobaith iddo.

30. Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro,a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.

31. Oherwydd nid yw'r Arglwyddyn gwrthod am byth;

32. er iddo gystuddio,bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr,

33. gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofidac yn cystuddio pobl.

34. Sathru dan draedholl garcharorion y ddaear,

35. a thaflu o'r neilltu hawl rhywungerbron y Goruchaf,

36. a gwyrdroi achos—Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?

37. Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwyddheb i'r Arglwydd ei drefnu?

38. Onid o enau'r Goruchafy daw drwg a da?

39. Sut y gall unrhyw un byw rwgnach,ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?

40. Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd,a dychwelyd at yr ARGLWYDD,

41. a dyrchafu'n calonnau a'n dwyloat Dduw yn y nefoedd.

42. Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela,ac nid wyt ti wedi maddau.

43. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,yn lladd yn ddiarbed.

Galarnad 3