Galarnad 3:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth,fel llew yn ei guddfa.

11. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio,ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12. Paratôdd ei fwa, a'm gosodyn nod i'w saeth.

13. Anelodd saethau ei gawella'u trywanu i'm perfeddion.

14. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd,yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

Galarnad 3