Exodus 6:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

24. Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid.

25. Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.

Exodus 6