Exodus 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; â llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad.”

2. Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, “Myfi yw'r ARGLWYDD.

3. Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.

4. Hefyd, gwneuthum gyfamod â hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;

Exodus 6