Exodus 40:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

28. Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,

29. a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

30. Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,

31. er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.

Exodus 40