Exodus 39:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,

26. a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

27. Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;

28. gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau

29. a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Exodus 39