Exodus 39:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

2. Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.

3. Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.

Exodus 39