Exodus 37:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

22. Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

23. Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.

24. Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

25. Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

Exodus 37