Exodus 36:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

15. Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

16. Cydiodd hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen,

17. a gwnaeth hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

Exodus 36