9. Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel
10. yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall.
11. Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu sĂȘl, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur.
12. Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD.
13. Gwna edafwaith o aur,
14. a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.